Explore the fascinating world of the Victorian judges at this award-winning historic house.
Achos lladrad yr hwyaid
CA2 and CA3
Cliciwch yma i ddarllen y treial
Mae'r treial yma ar ffurf drama yn defnyddio system sain ein llys. Daeth yr holl fanylion, gan gynnwys llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y llys, o adroddiad ar y treial a gyhoeddwyd yn yr Hereford Times ar 13eg Ionawr 1866.
Beth am roi cynnig ar ail-greu'r treial yma yn yr ystafell ddosbarth? (Mae'n cymryd rhyw 20 munud i'w ddarllen yn uchel). Os ydych chi'n bwriadu ymweld â ni, fe allech chi actio yn ein llys fel rhan o'ch gweithgareddau.
Mae tynged William o 6 mis o lafur caled yn adlewyrchu'r dedfrydau llym am ladrata yn y dyddiau hynny. Byddai wedi cael ei anfon i garchar Llanandras (lle mae ysgol John Beddoes yn sefyll heddiw). Roedd gan y carchar enw drwg iawn oherwydd ei gyflwr, ac mae'n bosib y byddai ei fywyd llym o lafur caled wedi cynnwys torri cerrig a'r cranc (sef bocs â handlen roedd yn rhaid ei throi nifer benodol o weithiau dros gyfnod penodol, neu fe fyddai cosb yn dilyn)... a hynny am ladrata hwyaid.

Cranc a sinc i dorri cerrig o Garchar Biwmares

Achos y trons coll