Explore the fascinating world of the Victorian judges at this award-winning historic house.

Ar Brawf Achos Lladrad yr Hwyaid

Treial William Morgan, 1866

Cymeriadau:  Porthor y llys, y Barnwr, yr Erlynydd, yr Amddiffyniaeth, y Cyhuddedig, Fforman y Rheithgor, Tystion:  Mrs Margaret Matthews, Thomas Davies, James Tyler, Mrs Jane Harries, Rogers yr heddwas.

Porthor: "Pawb i godi i Farnwr Brawdlys Ei Mawrhydi, Mr Barnwr Montague Smith." 

 (Daw'r Barnwr i mewn o'r drws sy'n arwain i'r Llety.  Sŵn traed yn symud a phesychu o'r seddi cyhoeddus.)

 Porthor:  " Tawelwch yn y llys."

 Barnwr: "Yr achos cyntaf ar Gyhuddiad yr Uchel Reithgor - yn wir, hyd y gwelaf i dyma'r unig achos - yn ymwneud â chyhuddiad o ladrad Porthor, galwch y cyhuddedig."

 Porthor:  "Yn galw William Morgan, Yn galw William Morgan."

Barnwr: "William Morgan, cyhuddir chi, ar neu oddeutu'r 17eg o fis Rhagfyr diwethaf, o ddwyn tair hwyaden a saith iâr, a oedd yn eiddo i John Brown o Lanshay. Sut yr ydych yn pledio i'r cyhuddiad hwn, euog neu ddieuog?"

 Morgan:  "Dieuog, Eich Teilyngdod."

Porthor:  "Galwch y Barnwr yn Fy Arglwydd."

Barnwr: "Peidiwch â gofidio am hynny - cofnodwch ei ateb.  Nawr, pwy sydd yn erlyn yr achos hwn?"

Erlynydd: "Os yw'n rhyngu bodd,  Eich Arglwydd,    Mr Arthur Cheese."

Barnwr:  "A, ie, Mr Cheese, credaf eich bod yn adnabyddus i'r llys hwn.  A phwy sydd yn amddiffyn?"

Amddiffyniaeth: "Mr John Bowen, os yw'n rhyngu bodd Eich Arglwydd."

Barnwr:  "Iawn, Mr Bowen.  Mr Cheese, cewch ddatgan yr achos i'r Rheithgor."

Erlynydd:  "Boneddigion y Rheithgor, mae'r achos hwn yn ymwneud â chyhuddiad yn erbyn William Morgan o Dref-y-Clawdd, llafurwr, am ddwyn tair hwyaden a saith iâr, eiddo John Brown o Fferm Llanshay, ger Tref-y-Clawdd.  Cyflawnwyd y drosedd ar yr 17eg neu'r 18fed o fis Rhagfyr diwethaf, ychydig cyn y Nadolig i ddweud y gwir, pan 'rwyn siŵr does rhaid i mi eich atgoffa y mae yna alw mawr am ddofednod.  Dangosaf i chi bod yr amddiffynnydd wedi dwyn yr adar yn oriau mân y 18fed Rhagfyr, gan eu lladd yn ddiweddarach a'i cuddio hwy yn y domen dail ger ei dŷ.  Dangosaf ymhellach iddo geisio gwerthu'r hwyaid mewn tafarn a adnabyddir fel y Llew Coch yn Nhref-y-Clawdd, yn ystod noson y 19eg o Ragfyr.  Mae'n bosibl bod yna berson arall yn gysylltiedig â'r drosedd, ond nid yw'r person hwn wedi ei ddal, a dangosaf beth bynnag mai'r person a gyhuddir yma oedd prif ysgogwr y drosedd.  A felly, gofynnaf ganiatâd i alw fy nhyst cyntaf."

Barnwr:  "Ewch ymlaen os gwelwch yn dda, Mr Cheese."

Porthor:  "Yn galw Mrs Margaret Matthews. Nawr cymrwch y llyfr yn eich llaw dde.  A ydych yn tyngu bydd y dystiolaeth byddwch yn ei chyflwyno yn wir, yr holl wir, a dim ond y gwir, ar eich llw?"

Margaret Matthews:  "Ydw"

Erlynydd:  "Dywedwch wrth y llys os gwelwch yn dda eich enw, cyfeiriad a'ch galwedigaeth."

Margaret Matthews: "Wel Syr, fy enw yw Margaret Matthews, ac 'rwyn wraig i William Matthews, gwas i Mr Brown ar fferm Llanshay.  'Rydym yn byw yn y 'by-tac' o'r enw Lawes  ar fferm Llanshay."

Erlynydd:  "Rhyw fath o ffermdy isradd yw'r 'by-tac'  Fy Arglwydd.  Ewch ymlaen, Mrs Matthews."

Margaret Matthews:  "Fel wedes i, 'rydym yn byw mewn 'by-tac' ac yn cadw ffowls i Mr Brown.   Roedd tua deugain a naw o ffowls gennym bryd hynny, Syr, a chwe hwyaden o'r un nythed - marciau rhyfedd oedd ar yr hwyaid, Syr, gyda brychau ar eu gyddfe, chi'n gwybod.  Baswn i'n eu nabod nhw rywle, Syr."

Erlynydd:  "Down at hynny'n hwyrach, diolch yn fawr Mrs Matthews.  A wnewch chi ddweud wrthom yn gyntaf beth ddigwyddodd ar yr 17eg a'r 18fed o fis Rhagfyr diwethaf."

Margaret Matthews:  "Wel syr, bwydes y ffowls rhwng wyth a naw y bore ar fore dydd Sul fel arfer, bydde hynny'r 17eg o Ragfyr, a weles i nhw i gyd yno am ddau neu dri yn y 'pnawn gan fy mod i'n mynd i lawr i Dref-y-Clawdd i'r Capel.  Des i ddim yn ôl tan tua naw o'r gloch y nos.  Yna gadewon ni'r ci mas, fel arfer, a dechreuodd e gyfarth, fel petai rhywun o gwmpas y lle.  Aeth y gŵr mas, ac roedd e'n meddwl ei fod wedi clywed rhywun yn towli carreg, ond welodd e neb, felly ddath ef nôl mewn.  Ond aeth y ci ymlaen i gyfarth tan ryw ddau neu dri y bore.  Bore trannoeth, dydd Llun y 18fed, es i mas cyn gynted ag iddi ddyddio - a weles i fod tair hwyaden a saith o ieir yn eisiau, felly es i lan i ddweud wrth Mr. Brown."

Erlynydd:  "A wnewch chi ddweud wrthom ble yr oedd ynstet cael eu cadw?"

Margaret Matthews:  "Wel syr, roedd yn y gieir clwydo yn y beudy, a oedd heb ei gloi, a'r hwyaid yn clwydo yn y pownd o dan y tŷ."

Barnwr:  "Ie, Mr Bowen, 'hoffech chi groesholi?"

Yr Amddiffyniaeth:  "Diolch Fy Arglwydd.  Nawr Mrs Matthews, 'rydych yn dweud bod yr hen feudy heb ei gloi.  Fe allai'r gieir fod wedi crwydro i ffwrdd?"

Margaret Matthews:  "O na syr, mae yna wal o gwmpas yr iard chi'n gweld, a mae'r ddwy gât ar glo yn y nos."

Erlynydd (i'r Porthor):  "Dangoswch grwyn yr hwyaid a'r gieir os gwelwch yn dda."

Barnwr:  "Gwelaf bod yr hwyaid wedi eu stwffio.  Gorau gyd efallai."

Erlynydd:  "Nawr Mrs. Matthews, a ydych chi'n adnabod y crwyn hwyaid a gieir hyn?"

Margaret Matthews:  "O ydw Syr, baswn yn nabod yr hwyaid yn rhywle, a weda i taw ein stetieir ni yw rheina hefyd - ma nhw'n debyg iawn ta beth."

Barnwr:  "Mr Bowen, eich tyst."

Yr Amddiffyniaeth:  "Meddyliwch yn ofalus, Margaret Matthews, a ydych chi'n siŵr mai eich hwyaid chi yw'r rhain?  Siawns bod un hwyaden yn debyg iawn i un arall?"

Margaret Matthews:  "O na, syr, yn bendant ni sy berchen y rhain. Mae'n nhw'n hwyaid arbennig iawn, 'rwyn eu nabod nhw'n dda iawn - wnes i eu magu nhw fy hun, o fod yn gywion bach chi'n gweld.  Mae ganddynt farciau rhyfedd ar bluf eu gwddf, chi'n gweld?  Pedwar mis oed oedden nhw, pan y cymerwyd hwy."

Erlynydd:  "Iawn, Mrs Matthews. Nawr, a ydych chi'n adnabod y carcharor?"

Margaret Matthews:  "O ydw, ma pawb yn 'nabod Will Morgan."

Erlynydd:  "Ond a wnaethoch chi ei weld oddeutu amser y drosedd."

Margaret Matthews:  "Do syr, wnes i.  Pan es i i'r Capel ar y 'pnawn Dydd Sul, wnes i gyfarfod â Will Morgan ar y ffordd dyrpeg sy'n arwain at ein tŷ ni, gyda dyn o'r enw Thomas Jones.  A nes ymlaen, tua naw o'r gloch y nos, wnes i gyfarfod y ddau yn Nhref-y-Clawdd, fel pe baent yn dod o'r ffordd dyrpeg."

Erlynydd:  "Iawn, Mrs Matthews, cewch fynd i'ch lle am nawr.  Gyda'ch caniatâd,  Fy Arglwydd, galwaf ar fy ail dyst."

Barnwr:  "Ewch ymlaen, Mr Cheese."

Porthor:  "Yn galw Thomas Davies.  Cymrwch y llyfr yn eich llaw dde.  A ydych yn tyngu  bydd y dystiolaeth  byddwch yn ei chyflwyno yn wir, yr holl wir, a dim ond y gwir, ar eich llw?"

Thomas Davies:  "Ydw."

Erlynydd:  "Mr Davies, chi yw'r glanhawr esgidiau yng Ngwesty Chandos, Tref-y-Clawdd?"

Thomas Davies:  "Wel syr, ma rhai'n dweud 'ostler', ond ydw, 'rwyn gweithio yng Ngwesty Chandos."

Erlynydd:  "A wnewch chi ddweud wrth y llys beth ddigwyddodd mewn perthynas â'r mater hwn yn ystod noson y 19eg Rhagfyr."

Thomas Davies:  "Rhwng tua chwech a saith o'r gloch ar y noson honno, syr, es i dŷ tafarn o'r enw Llew Coch yn Nhref-y-Clawdd.  Yno fe ddes o hyd i'r carcharor a dyn o'r enw James Langford - roeddynt yn eistedd un bob ochr i le tân y gegin, yn yfed.  Dywedodd Langford wrthai bod ganddo gwpwl o hwyaid a oedd wedi ennill pan yn chwarae cardiau."

Barnwr:  "A wnaethoch chi feddwl bod hyn yn od?  A yw hi'n arferol i chwarae cardiau am hwyaid yn Sir Faesyfed?"

Thomas Davies:  "Wel syr,  mae'n digwydd, wnes i ddim meddwl dim am y peth.  Ta beth, wnaeth Langford gynnig gwerthu dwy hwyaden am deir swllt i mi.  Dywedais wrtho na fyddent o ddefnydd i mi achos doedd gen i ddim arian.  Felly yfais glasiad  o gwrw, a gadewais, gan fynd draw at dafarn Y Crown.  Cyrhaeddais yno, a soniais wrth y dafarnwraig am yr hwyaid, ac 'roedd dyn o'r enw James Tyler yno - dywedais wrth y ddau y pris roedd Langford yn ei ofyn.  Dywedodd Tyler y basai e eisiau un o'r hwyaid am bymtheg ceiniog - nid dyma faint wnaethant ei ofyn ond es i nôl i'r Llew eto gyda'r arian.  Roedd y carcharor a Langford dal yno.  Daeth Langford at y drws, rhoddais y pymtheg ceiniog iddo, a rhoddodd yr hwyaden i mi - a oedd yn ei boced."

Barnwr:  "Roedd yn ei boced?  Oedd yn farw?"

Thomas Davies:  "O oedd syr, roedd yn farw - fydde fe ddim yn aros mewn yn y fana onibai."

(Chwerthin yn y llys.)

Porthor:  "Gosteg yn y llys."

Erlynydd:  "Ewch ymlaen Mr Davies os gwelwch yn dda.  Beth ddigwyddodd wedyn?"

Thomas Davies:  "Wel, es i â'r hwyaden yn ôl at Tyler yn Y Crown.  Roedd dyn arall yno, Mr Glayswell, wedodd ei fod eisiau'r hwyaden arall am yr un pris, felly es i nôl i'r Llew eto, gan ddweud wrth Langford fy mod eisiau'r hwyaden arall.  Dywedodd e ''wnai hala fe mas gyda ti".  Aroshais felly yn y pasage wrth ddrws y Llew, yna daeth y carcharor mas gyda'r hwyaden arall."

Yr Amddiffyniaeth:  "Chi'n siŵr mai'r carcharor oedd yno, nid Langford?"

Thomas Davies:  "Ydw syr, y carcharor oedd yno.  Rhoddais yr arian iddo - roedd Langford wedi dweud wrthai y basai'n iawn, a rhoddodd yr hwyaden arall i mi, a es i â honno yn ôl at Glayswell yn Y Crown."

Erlynydd:  "A yw'r hwyaid a welwch chi yma yr un â'r rheini a ddaethoch o'r Llew?"

Thomas Davies:  "Rwyn credu eu bod nhw, Syr, ond eu bod heb eu stwffio bryd hynny."

(Mwy o chwerthin)

Erlynydd:  "Rydym yn gwybod hynny, Mr Davies.  Beth ddigwyddodd wedi hynny?"

Thomas Davies:  "Ddigwyddodd yna ddim y noson honno, ond bore trannoeth, daeth Cwnstabl Rogers a fy rhoi dan warchodaeth am dderbyn hwyaid wedi eu dwyn.  Felly dywedais wrtho fe yn union fel yr wyf wedi dweud wrthoch chi syr, a wnaeth fy rhyddhau."

Erlynydd:  "Dyna'r cyfan am nawr, Mr Davies.  Gallwch fynd i'ch lle.  A chaf i alw'r tyst nesaf, syr?"

Barnwr:  "Gallwch, os nad oes gan Mr Bowen gwestiynau i'w gofyn i'r tyst diwethaf."

Yr Amddiffyniaeth:  "Na syr."

Porthor:  "Yn galw James Tyler.  Cymrwch y  llyfr yn eich llaw dde.  A ydych yn tyngu  bydd y dystiolaeth  byddwch yn ei chyflwyno yn wir, yr holl wir, a dim ond y gwir, ar eich llw?"

James Tyler:  "Ydw."

Erlynydd:  "Mr Tyler, dywedwch wrth y llys os gwelwch yn dda beth ddigwyddodd ar noson y 19eg o fis Rhagfyr diwethaf."

James Tyler:  "Roedd yn union fel y'i disgrifiwyd hi gan y tyst diwethaf.  Roeddwn yn Y Crown,  a rhoddodd ef hwyaden i mi, a thalais 15c - swllt a thair ceiniog am yr hwyaden.  Rhoddais hi i'r dafarnwraig ei chadw i mi, cyn gynted â ches hi."

Erlynydd:  "A welwch chi'r hwyaden yma?  Ai dyna'r un a ddangoswyd yma?"

James Tyler:  "Allaf i ddim â dweud hynny'n iawn.  Mae siŵr o fod yr un lliw - dyna'i gyd allai weud wrthoch chi."

Barnwr:  "Unrhyw gwestiynau, Mr Bowen?"

Yr Amddiffyniaeth:  "Na, Fy Arglwydd."

Erlynydd:  "Iawn, ewch i'ch lle.  Hoffwn i alw Mrs Jane Harris nawr, tafarnwraig Y Crown."

Barnwr:  "Ewch ymlaen, Mr Cheese"

Porthor:  "Yn galw Mrs Jane Harris.  Cymrwch y llyfr yn eich llaw dde.  A ydych yn tyngu bydd y dystiolaeth byddwch yn ei chyflwyno yn wir, yr holl wir, a dim ond y gwir, ar eich llw?"

Mrs Jane Harris:  "Ydw."

Erlynydd:  "Mrs Harris, a wnewch chwi ddweud wrth y llys beth welsoch chi ar y noson o dan sylw?"

Mrs Jane Harris:  "Gwnaf syr.  Roedd Davies, y tyst, yn fy nhŷ fel y dywedodd.  Prynodd hwyaden i Mr Tyler ac yn nes ymlaen un arall i Mr Glayswell.  Wnaeth y ddau adael yr hwyaid dan fy ngofal, a ni feddyliais fwy am y peth.  Ond bore trannoeth daeth Cwnstabl Rogers i fy ngweld, gan ddweud eu bod wedi'u dwyn, ac felly wrth gwrs rhoddais hwy iddo.  Nid wyf yn derbyn nwyddau wedi eu dwyn, 'rwyn cadw tŷ parchus."

Erlynydd:  "Rwyn siŵr eich bod, Mrs Harris.  A wnewch chi ddweud wrthom âi'r hwyaid a welwch chi yn y llys hwn yw'r rhai a welsoch y noson honno."

Mr Jane Harris:  "Gallaf syr, 'rwyn siŵr mai dyna nhw.  Roedd eu lliw yn anarferol syr, sylwais hynny ar y pryd."

Erlynydd:  "Ewch i'ch lle os gwelwch yn dda, Mrs Harris.  Yn olaf Fy Arglwydd, hoffwn alw ar Gwnstabl Rogers."

Barnwr:  "Ewch ymlaen Mr. Cheese."

Porthor:  "Yn galw Cwnstabl David Rogers.  A ydych yn tyngu  bydd y dystiolaeth  byddwch yn ei chyflwyno yn wir, yr holl wir, a dim ond y gwir, ar eich llw?"

Cwnstabl Rogers:  "Ydw."

Erlynydd:  "Cwnstabl Rogers, yr ydych yn gyfarwydd â chyflwyno tystiolaeth, 'rwyn gwybod.  Fe  fyddai'n dda gennyf petaech yn dweud wrth y llys ffeithiau'r mater hwn."

Cwnstabl Rogers:  "Fy enw i yw David Rogers, ac 'rwyn swyddog yr heddlu yn Nhref-y-Clawdd.  Ar fore'r 18fed o fis Rhagfyr diwethaf, derbyniais wybodaeth ynglŷn â'r gieir y soniwyd amdanynt ynghynt sef eu bod wedi mynd ar goll o Lanshay.  O ganlyniad es i ymweld â Llanshay  a'r lle y dygwyd y gieir ohono, a gwelais olion a oedd yn arwain at dŷ'r carcharor.  Felly es i dŷ'r carcharor a gwyliais heb yn wybod iddo yn ystod rhan o'r noson honno a'r diwrnod wedyn.  Ar fore dydd Mercher, cymerais yr hwyaid dan fy ngofal oddi wrth Mrs Harris, ac ar yr un bore wnes i ddal y carcharor Morgan.  Ond roedd Langford wedi dengid, a methais â dod o hyd iddo."

Erlynydd:  "Beth ddywedodd y carcharor pan wnaethoch ei ddal?"

Cwnstabl Rogers:  "Yn gyntaf rhybuddiais ef yn unol â'r rheoliadau, gan ddweud wrtho ei fod wedi ei gyhuddo o ddwyn tair hwyaden a saith iâr, a oedd yn eiddo i Mr Brown.  Yna gofynnodd y carcharor pwy arall oedd wedi ei arestio, a dywedais wrtho nad oeddwn yn medru datgelu unrhyw wybodaeth o'r fath.  Yna dywedodd 'rwyn gwybod dim am yr hwyaden a oedd gan Langford.  Mi ddes o hyd i fy un i yn gwbl gonest, yn y domen dail gyferbyn â'r tŷ.'  Yna rhoddais e yn y ddalfa.''

Erlynydd:  "Beth ddigwyddodd wedyn?"

Cwnstabl Rogers:  "Bore trannoeth, es i nôl i'r adeilad y soniodd y carcharor amdano, sef lle yr oedd y domen dail yn cael ei chadw.  Yno darganfyddais y saith iâr dan sylw, mewn bag wedi ei guddio oddi dan rywfaint o wair.  Dyma'r gieir 'rydym ni wedi eu gweld yma yn y llys heddiw, ynghyd â'r hwyaid y cefais gan Mrs Harris."

Erlynydd:  "Roedd yr adeilad hwn, ynghyd â'r domen dail gyferbyn â thŷ'r carcharor?"

Cwnstabl Rogers:  "Oedd syr."

Barnwr:  "A oes unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'r Cwnstabl, Mr Bowen?"

Yr Amddiffyniaeth:  "Diolch, Fy Arglwydd.  Yr olion hyn wnaethoch sôn amdanynt, o Lanshay tuag at dŷ'r carcharor - a oedd gennych unrhyw reswm dros eu cysylltu nhw gyda'r carcharor?"

Cwnstabl Rogers:  "Dim ar y pryd, syr.  Ond wedyn sylwais eu bod yn debyg iawn i'r rheini a wnaed gan esgid y carcharor - roedd dwy hoelen ar goll o'i esgid chwith, wrth y bysedd blaen.  Roedd yr olion yn glir iawn, achos bod y tywydd wedi bod yn wlyb iawn, gyda rhew trwm i ddilyn."

Barnwr:  "A oes mwy o gwestiynau, Mr Bowen?"

Yr Amddiffyniaeth:  "Na Fy Arglwydd."

Barnwr:  "Iawn cwnstabl, ewch i'ch lle.  Ond cyn i chi fynd, hoffwn i eich canmol am eich gwaith gofalus iawn ar yr achos hwn.  Deallaf i chi eich canmol o'r blaen yn y llys hwn am waith ar achos dwyn defaid yn ......er Y Clas ar Wy.  Mae'r heddlu yn Sir Faesyfed yn ffodus iawn o gael swyddogion fel y chi.  Boneddigion y Rheithgor, go brin y medraf ategu unrhyw beth at y dystiolaeth sydd eisoes wedi ei chyflwyno o'ch blaen. I mi mae hwn yn fater clir a syml iawn, onibai fod gan y pen-rheithiwr unrhyw gwestiynau, yr wyf yn cynnig gofyn i chi fynd ag ystyried eich dyfarniad.  Y Pen-rheithiwr, a oes gennych unrhyw gwestiynau, neu a ydych yn dymuno gadael y llys i ystyried eich dyfarniad?"

Pen-rheithiwr:  "Dim cwestiynau, Fy Arglwydd,  os cawn ni eiliad fach, dydw i ddim yn credu y bydd angen i ni adael y llys."

(Siarad ymysg y Rheithgor)

Pen-rheithiwr:  "Na Fy Arglwydd, does dim angen i ni adael - yr ydym yn barod nawr."

Barnwr:  "Boneddigion y rheithgor, a yw'r carcharor yn euog neu'n ddi-euog?"

Pen-rheithiwr:  "Euog Fy Arglwydd."

Barnwr:  "Ai dyna ddyfarniad pob un ohonoch?"

Pen-rheithiwr:  "Ie wir, Fy Arglwydd."

Barnwr:  "Y carcharor wrth y bar, yr ydych wedi eich canfod yn euog o drosedd ddifrifol iawn.  Efallai bod eraill yn gysylltiedig, ond nid ydynt ar brawf heddiw.  Beth bynnag, mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gasglwyd ac a gyflwynwyd mor wych gan Gwnstabl yr heddlu bod yr adar wedi eu darganfod ger eich cartref a mai chi eich hun wnaeth eu rhoi yno.  Hefyd, wnaethoch chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgais i werthu eiddo a oedd wedi ei ddwyn.  Yn waeth na hynny, 'rydych wedi dwysau difrifoldeb eich trosedd trwy ddweud celwydd wrth yr heddlu, a fe allech fod wedi gwneud pethau'n waeth fyth pe bai'r garreg a wnaethoch eu thaflu wedi anafu Mr. Matthews.

Yn waeth fyth, mae'n amlwg fod eich trosedd yn fwriadol.  Mae'n amlwg i mi ar brynhawn yr 17eg o Ragfyr pan y gwelodd Mrs. Matthews chi, eich bod yn mynd i gael golwg ar y lle er mwyn cynllunio'r lladrad.  Yn ffodus iawn i chi, dyma'r drosedd gyntaf a gofnodwyd yn eich erbyn, neu efallai y basech yn derbyn dedfryd drymach.  Fel ag y mae, 'rwyf yn eich dedfrydu i chwe mis yn y carchar, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, disgwylir i chi wneud llafur caled.

Ewch ag ef i lawr."

Y Diwedd.

Daeth manylion y treial hwn, gan gynnwys llawer o'r araith, o adroddiad a gyhoeddwyd yn The Hereford Times ar 13eg Ionawr 1866.

News

Forthcoming Events

Strange But True

  • list arrowHow did Victorians try out a new invention?

    Test it on the servants of course! That's what happened in 1860 at The Judge's Lodging, when gas lighting was put into the basement and not the Judge's rooms. They wanted to see if they got sick from the fumes. The servants were fine - that's why we got the lights working again.

Historical Handy Hints

Recipes