Explore the fascinating world of the Victorian judges at this award-winning historic house.
Pobl mewn tref Fictoraidd
Pwy yw pwy yn Llanandras, 1868?
Roedd gan Lanandras yn oes Fictoria boblogaeth o lai na 2000 o bobl, yn debyg iawn i heddiw. Felly pwy oedd y bobl yma, a beth oedden nhw'n ei wneud″ Yn yr adran yma, fe fyddwch chi'n dod o hyd i ddetholiad o luniau o drigolion yn oes Fictoria, yn amrywio o'r Barnwr i'r gwas stabl, ac ychydig o wybodaeth am fusnesau yn y dref. Mae'r wybodaeth yma wedi dod o gyfeiriadur masnach 1868.
Edrychwch ar eu hwynebau, astudiwch eu dillad, meddyliwch am y gwahanol fathau o fusnesau roedd pobl yn eu gwneud a chofiwch y byddai wedi bod angen mwy o fasnachwyr na heddiw gan ein bod ni yn dibynnu ar deithio i drefi mawr a dinasoedd i gael rhai nwyddau penodol.
Os ydych chi'n ymweld â Llanandras, edrychwch ar y Stryd Fawr heddiw a cheisiwch weld olion yr hen adwerthwyr, fel Haearnwerthwyr Newell's − mae enw'r teulu yn dal i'w weld uwchben y drws. (Rydym ni'n arddangos casgliad o eitemau o'r siop yma yn ein hystafelloedd hanes lleol).
Edrychwch ar y bobl − gallwch chi glicio ar y delweddau bach i weld rhai mwy. Beth oedden nhw'n ei wneud″
Mae'r lluniau yn yr adran yma yn hawlfraint Llety'r Barnwr a C. Leversedge.
Ni chewch eu hatgynhyrchu oni bai fod hynny at ddibenion addysgol.
Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig i'w defnyddio at unrhyw ddibenion eraill.

Pwy yw pwy un Llanandras 1868?